Pan ddaw lleisiau'r nos i 'mhoeni, A sibrwd gwag y gwynt i'm hoeri, Ti sy'n lliwio'r blode a mantell gwlith y bore; Tyrd Ysbryd y Nos. A'r tonnau'n llusgo'r cregyn arian, Yn siffrwd yn eu llifrau sidan, Mi wn y byddi yno yn barod i'm cysuro, Tyrd, Ysbryd y Nos. Cytgan: Ysbryd y nos, tyrd yma'n nawr, Gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr, Diffodd y twyllwch, tyrd a'r dydd, Gad im, ddod o'r nos yn rhydd. Pleth dy wallt mewn rhuban euraidd Yn gynnes yn dy olau peraidd, A bysedd brau y barrug yn deffro hun y cerrig, Tyrd, Ysbryd y Nos. A'r tonnau'n llusgo'r cregyn arian, Yn siffrwd yn eu llifrau sidan, Mi wn y byddi yno yn barod i'm cysuro, Tyrd, Ysbryd y Nos. Ysbryd y Nos, rho d'olau mwyn, Ysbryd y Nos, rho im dy swyn, Ysbryd y Nos, fel angel y dydd, Ysbryd y Nos, enaid y pridd. Ac yno yn y dyffryn tawel, Mi glywaf gan yn swn yr awel, A neges hud y geirie, yn hedfan dros y brynie, Tyrd Ysbryd y Nos.

Watch the song video
Top songs from Edward H Dafis