Intro: Verse O ffarwel, mae'n fore braf, O ffarwel i chi, Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan Dan donnau oer y lli. Ond brysiwch, mae'n rhaid ymadael, Hiraeth a lenwa 'mron Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan Yn isel o dan y don. Verse Cofleidiodd ei rieni, Ei chwaer a'i ffrindie i gyd, Ni welaf fyth 'mo Solfa mwy O fynd i bellter byd. Ond brysiwch, mae'n rhaid ymadael, Hiraeth a lenwa 'mron Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan Yn isel o dan y don. Verse Yn nhafarn glyd y pentref bach, Ei arian roes i'w ffrind, Wel, yfwch lan, ac iechyd da! I ryfel mae'n rhaid mynd. Ond brysiwch, mae'n rhaid ymadael, Hiraeth a lenwa 'mron Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan Yn isel o dan y don. Verse O fewn y mis y postmon ddaeth A llythyr at ei dad, Bu farw Walter o dan y mor, Bu farw dros ei wlad. Ond brysiwch, mae'n rhaid ymadael, Hiraeth a lenwa 'mron Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan Yn isel o dan y don. Yn isel o dan y don.