Intro Verse Mae'r coed yn sythi yn eu seddi ger y llyn A'r d?r fel drych yn adlewyrchu bore gwyn Ond yn fy nwrn dwi'n dala'r garreg oer yn dynn O weithiau mae ffawd yn cynnig llaw fel hyn Breuddwyd jyst sgubo'r pren llawn rhyfeddodau'r byd Holl drysor dynol ryw o fewn y waliau clud Breuddwyd jyst arwynt yn siglo'r tô fel crud O weithiau mae'r llain dan fy nhraed yn llwch i gyd Oooooooooooooooo Oooooooooooooooo O weithiau mae'r llain dan fy nhraed yn llwch i gyd Instrumental Verse Fe glywais swynol gân ar awel man y nôs Yr eos ber yn canu ar ei chlwyd gyfagos Fe glywais wichian y dylluan ar y rhos O weithiau bydd screch yn drech i'r alaw dlos Fe welais rhosyn coch yn ddel ymysg y drain Estynais law i afael yn y coesyn main Ac wedi'r pigo roedd y gwir i mi mor blaen O weithiau mae rhaid sarnu gwaed cyn symud 'mlaen Oooooooooooooooo Oooooooooooooooo O weithiau mae rhaid sarnu gwaed cyn symud 'mlaen O weithiau mae rhaid sarnu gwaed cyn symud 'mlaen Outro

Watch the song video
Top songs from The Gentle Good